Canolfan Peirianneg Gwerth Uchel (HiVE)

HiVE exterior in the sunshine

Campws Peirianneg Gwerth Uchel Newydd

Dyfodol arloesedd a thechnoleg o’r radd flaenaf

Mae HiVE ar ddod – ein campws a adeiladwyd yn bwrpasol sy’n werth aml-filiynau o bunnoedd wedi’i ddylunio ar gyfer darpar beirianwyr. Cewch hyfforddiant ac addysg ymarferol ym meysydd roboteg, awyrofod, chwaraeon moduro, deunyddiau uwch a gweithgynhyrchu gan ddefnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf.

Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chymoedd Technoleg, mae HiVE wrth galon Glyn Ebwy, yn agos i Barth Dysgu Blaenau Gwent. Bydd y cyfleuster newydd yn rhoi’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol i bobl ifanc ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau yn y dyfodol.

Engineering student working with a robotic arm

Sgiliau ar gyfer eich dyfodol

Datblygu sgiliau peirianneg

O roboteg a gweithgynhyrchu haen-ar-haen i seiberddiogelwch a realiti estynedig, bydd dysgwyr wrth galon technoleg o’r radd flaenaf.

Dyfodol peirianneg

Bydd y cyfleuster addysg sy’n hollol ddigidol yn cynnig cwricwlwm a arweinir gan arbenigwyr diwydiant gan gynnig cyrsiau newydd a chyrsiau presennol o lefel TGAU i lefel radd.

Cyfleoedd I gyflogwyr

Mae HiVE ar agor i gyflogwyr ddatblygu sgiliau STEM yn y gymuned gan sicrhau gweithlu sy’n meddu ar y sgiliau i fodloni gofynion technoleg sy’n esblygu’n gyflym.

Lle mae dod o hyd i ni

HiVE
Coleg Gwent
Heol Letchworth
Glynebwy
Blaenau Gwent
NP23 6FS

Student experiences

Student in an electric race car

CG Students Build Wales’ Fastest Electric Kit Car!

Student in an electric race car

Barod i ymuno â ni yn HiVE?

Archwilio ein cyrsiau