Llunio’ch dyfodol gyda gyrfa mewn peirianneg

Mae peirianneg yn llunio’r byd o’n cwmpas - o’r ceir yr ydym yn eu gyrru i’r dechnoleg a ddefnyddir gennym yn ddyddiol Mae galw mawr am beirianwyr, felly mae’n ddewis doeth ar gyfer gyrfa, pa bynnag gam bywyd yr ydych arno.

Ar ein cyrsiau peirianneg byddwch yn cael cymwysterau sy’n cael eu cydnabod gan y diwydiant, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa gyffrous yn y diwydiant deinamig hwn. Rydym yn cynnig cyrsiau ledled ein campysau, gan gynnwys ein Canolfan Peirianneg Uchel ei Werth arloesol (HiVE).

Byddwch yn dysgu mewn gweithdai o’r radd flaenaf

Byddwch yn datblygu eich sgiliau gan ddefnyddio:

  • Offer llaw a pheirianyddol traddodiadol

  • Peiriannau modern a reolir gan gyfrifiaduron

  • Technoleg brototeipio cyflym

  • Llwybrau peirianneg arbenigol

Peirianneg fecanyddol

Mae peirianwyr mecanyddol yn dylunio, datblygu, a chynnal peiriannau a systemau mecanyddol - o awyrennau a dyfeisiadau meddygol i injians ac offer. Byddwch yn dysgu sut i fynd â chynnyrch o gysyniad i gwblhad, gan ganolbwyntio ar swyddogaeth, gwytnwch, ac effeithlonrwydd i ddatrys heriau’r byd go iawn.

Peirianneg drydanol ac electronig

O ffonau clyfar a cherbydau trydan i orsafoedd pŵer ac awtomeiddio’r cartref, mae peirianwyr trydanol ac electronig yn cadw’r byd modern i fynd. Gyda chynaliadwyedd ac ynni gwyrdd yn llywio’r dyfodol, ni fu’r galw am beirianwyr medrus erioed yn uwch. Byddwch yn archwilio trydan, dargludiad, ac electromagneteg, gan ddysgu sut i adeiladu a chynnal systemau trydanol hanfodol.

Peirianneg sifil

Mae peirianwyr sifil yn cynllunio, adeiladu, a chynnal seilwaith ein trefi a’n dinasoedd. O bontydd a thwneli i nendyrau a stadiymau, mae’r maes hwn yn cyfuno adeiladu, gwyddoniaeth amgylcheddol, a pheirianneg strwythurol. Byddwch yn defnyddio technoleg uwch a deunyddiau i greu strwythurau sy’n gynaliadwy, yn ddiogel, ac wedi’u hadeiladu i bara.

Peirianneg fodurol

Gyda datblygiadau cyflym mewn ceir, beiciau modur, cerbydau trydan, a chwaraeon modurol, mae galw cynyddol am beirianwyr modurol. Mae’r maes yn cynnwys popeth o systemau injan a thechnoleg tanwydd i thermodynameg a diogelwch cerbydau - diwydiant arloesol gyda chyfleoedd gyrfa byd eang.

Peirianneg awyrenegol

Mae dewisiadau di-ben-draw gyda pheirianneg awyrenegol. O archwilio’r gofod i bobl yn teithio, mae’r maes hwn yn canolbwyntio ar fecaneg hedfan, systemau awyrennol, ac aerodynameg. Wrth i dechnoleg ddatblygu, bydd peirianwyr awyrenegol yn chwarae rôl allweddol wrth lywio dyfodol teithiau awyr a gofod.

Saernïo a weldio

Mae saernïo a weldio yn hanfodol mewn peirianneg ac adeiladu. Gan ddefnyddio ystod o dechnegau torri, uno, a siapio, byddwch yn gweithio gyda deunyddiau fel dur ac aloiau i weithgynhyrchu cydrannau a strwythurau. Mae angen seiri a weldwyr medrus mewn sawl sector, sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa amrywiol.

Engineering student smiling

I ble y gall peirianneg fynd â chi?

Mae peirianneg yn cynnig cyfleoedd diddiwedd i arloesi, adeiladu a datrys problemau byd go iawn. P'un a ydych chi'n rhywun sy’n ymarferol neu'n canolbwyntio ar ddylunio, mae yna lwybr gyrfa sy'n cyd-fynd â'ch angerdd a sgiliau.

Mae cymhwyster mewn peirianneg yn agor drysau i ystod o yrfaoedd cyffrous, gan gynnwys:

  • Peiriannydd modurol

  • Peiriannydd dylunio

  • Technegydd peirianneg

  • Saer a weldiwr

  • Peiriannydd mecanyddol

  • Peiriannydd trydanol

  • Peiriannydd cynhyrchu

  • Adeiladwr llongau neu bontydd

  • Peiriannydd chwaraeon modur

  • Gweithredwr peiriannau

  • Rheoli peirianneg

Mae astudio Peirianneg Fecanyddol yn Coleg Gwent wedi bod yn brofiad gwych. Mae'r cydbwysedd rhwng gwaith ymarferol a theori yn berffaith, ac mae'r tiwtoriaid yn gyfeillgar ac yn gefnogol iawn. Rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd, o ddefnyddio offer i'w cymhwyso yn fy ngwaith yn Capital Coated Steel.

Thomas - Peirianneg Fecanyddol
Electrical Engineering student working with wiring

Cychwynnwch ar eich gyrfa beirianneg heddiw

Mae peirianneg yn cynnig cyfleoedd diddiwedd i arloesi, adeiladu a datrys problemau byd go iawn. P'un a ydych chi'n rhywun ymarferol neu'n seiliedig ar ddylunio, mae yna lwybr gyrfa i gyd-fynd â'ch angerdd a sgiliau.

Edrychwch ar ein cyrsiau llawn amser, rhan amser a lefel prifysgol heddiw a chymerwch y cam cyntaf tuag at ddyfodol mewn peirianneg.

Cyrsiau

27 cwrs

27 cwrs

  • Llawn Amser
  • Lefel 3

BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Peirianneg (Trydanol) Lefel 3

Campws Crosskeys

01/09/2026

  • Llawn Amser
  • Lefel 3

BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 3

Campws Crosskeys

01/09/2026

  • Rhan Amser
  • Addysg Uwch

HNC Amgylchedd Adeiledig

Campws Dinas Casnewydd

21/09/2027

£2355.00

  • Rhan Amser
  • Addysg Uwch

HNC Peirianneg Sifil

Campws Dinas Casnewydd

21/09/2027

£2355.00

  • Rhan Amser
  • Addysg Uwch

HNC Peirianneg Electronig a Thrydanol

Campws Crosskeys

14/09/2027

£2355.00

  • Llawn Amser
  • Addysg Uwch

HNC Peirianneg Fecanyddol

HiVE – Glyn Ebwy

20/09/2027

  • Rhan Amser
  • Addysg Uwch

HNC Peirianneg Fecanyddol

HiVE – Glyn Ebwy

20/09/2027

£2355.00

  • Rhan Amser
  • Addysg Uwch

HND Peirianneg Sifil

Campws Dinas Casnewydd

21/09/2027

£2355.00

  • Rhan Amser
  • Addysg Uwch

HND Construction

Campws Dinas Casnewydd

21/09/2027

£2355.00

  • Rhan Amser
  • Addysg Uwch

HND Peirianneg Electronig a Thrydanol

Campws Crosskeys

07/09/2027

£2355.00

  • Rhan Amser
  • Addysg Uwch

HND Peirianneg Fecanyddol

Campws Crosskeys

09/09/2027

£2355.00

  • Rhan Amser
  • Prentisiaethau

Prentisiaeth – Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 3

Campws Dinas Casnewydd

Hyblyg

Pob cwrs (27)

Hidlyddion

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your fee range:

Choose your start date: