Bwyty Morels

Archebu bwrdd
Customers eating in Morels Restaurant

Morels refurbishment

Morels Restaurant is currently closed and we’re not taking any bookings at the moment.

We had some setbacks during our refurbishment, but we’re excited to welcome you to our new-look restaurant when we reopen.

Keep an eye on the website for our reopening date. 

Ble mae angerdd am fwyd yn cwrdd â hyfforddiant proffesiynol

Mae ein bwyty arddangos ar ein campws Crosskeys yn cynnig gwasanaeth ardderchog a gwerth am arian arbennig, ynghyd â phrydau blasus a rhestr gwinoedd eang, i greu profiad bwyta dymunol, a phopeth wedi ei goginio gan ein cogyddion sydd dan hyfforddiant sydd mor frwd dros fwyd â chi.

Archebu bwrdd

Ydych chi’n chwilio am rywle gwahanol i fwyta? Cadwch eich bwrdd ym Mwyty Morels a mwynhau bwyd gwych mewn lleoliad croesawgar.

Amseroedd agor

Cinio

Dydd Mawrth i Ddydd Gwener

Cyrraedd: 12:00pm

Eistedd: 12:15pm

Swper

Nos Fawrth yn unig

Cyrraedd: 6:45pm

Eistedd: 7:00pm

(Yn ystod y tymor yn unig)

Ordering at Morels

Bwydlen diweddaraf

Gyda phrydau traddodiadol a rhanbarthol wedi eu paratoi gyda’r cynhwysion mwyaf ffres, byddwch o hyd yn gweld rhywbeth i’ch temtio yn ein bwyty hamddenol a chyfeillgar.

Lle mae dod o hyd i ni

Bloc C
Campws Crosskeys
Heol Risca
Crosskeys
Caerffili
NP11 7ZA
Student with drink at Morels Restaurant

Cwestiynau cyffredin

Ydy – Mae Bwyty Morels yn croesawu gwesteion o’r gymuned leol, yn ogystal ag aelodau staff a myfyrwyr.

Rydym yn argymell eich bod chi’n archebu o flaen llaw oherwydd gall byrddau fod yn brin yn ystod oriau gwasanaeth.

Mae Morels yn lleoliad gwych ar gyfer digwyddiad neu barti preifat. Gallwn eich helpu i drefnu eich digwyddiad, yn ogystal â darparu bwyd, gwasanaeth a gwerth am arian arbennig o dda.

Mae’r bwyty ar agor ar gyfer digwyddiadau a phartïon preifat ar nos Fawrth, rhwng 6.45yp – 8.45yp.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01495 333496 neu anfon e-bost at morels@coleggwent.ac.uk.

Mae ein bwydlenni’n cynnwys prydau bwyd sydd wedi’u paratoi yn ffres gan ein dysgwyr a’n haelodau staff Lletygarwch ac Arlwyo gan gynnig dewisiadau tymhorol drwy gydol y flwyddyn.

Oes – mae dewisiadau llysieuol a fegan ar gael. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion deietegol wrth archebu.

Oes – rhowch wybod i ni am unrhyw alergeddau neu ofynion deietegol wrth archebu.

Bydd Bwyty Morels ond yn derbyn taliadau cerdyn.

Oes – mae parcio am ddim ar gael ar gampws Crosskeys ar gyfer gwesteion y bwyty.

Mae Bwyty Morels yn rhoi profiad gwerthfawr o’r byd go iawn i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo mewn amgylchedd bwyta proffesiynol.

Hospitality students smiling

Cyrsiau cysylltiedig